Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards - BestLightNovel.com
You’re reading novel Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 6 online at BestLightNovel.com. Please use the follow button to get notification about the latest chapter next time when you visit BestLightNovel.com. Use F11 button to read novel in full-screen(PC only). Drop by anytime you want to read free – fast – latest novel. It’s great if you could leave a comment, share your opinion about the new chapters, new novel with others on the internet. We’ll do our best to bring you the finest, latest novel everyday. Enjoy
AT RISIART MORYS, YSWAIN, LLYWYDD CYMDEITHAS Y CYMMRODORION YN LLUNDAIN; A'I FRODYR, LEWIS MORYS, YSWAIN, O BENBRYN, YNG NGHEREDIGION; A WILLIAM MORYS, O GAERGYBI, YM MON.
Ni b.u.m yn hir yn myfyrio i bwy i cyflwynwn yr ychydig Awdlau sydd yn canlyn, canys ni adwaen i neb heddyw ag sydd yn eu deall cystal a chwi, na neb chwaith sydd yn coledd ac yn mawrhau ein iaith mor anwylgu Frutannaidd. I mae ein gwlad ni yn rhwymedig i bob un o honoch: i chwi y _Llywydd_, yn enwedig, am y gofal a gymmerasoch yn golygu argraffiad diweddaf y _Bibl Cyssegrlan_, er lles tragwyddol eneidiau ein cydwladwyr.
Ef a dal Duw i chwi am y gorchwyl elusengar yma, pan i bo'r byd hwn, a'i holl fawredd a'i wychder, wedi llwyr ddiflannu. Ac i mae'r wlad a'r iaith yn dra rhwymedig i'r _Gwr o Benbryn_, am gasglu cymmaint o _Hanesion ynghylch ein Hynafiaid_, na chlywodd y _Saeson_ braidd son erioed am danynt. Ef a ddelwent ddilynwyr _Camden_, pei gwelynt fal i mae yn argyhoeddi ac yn ceryddu eu beiau, a'u tuedd gwyrgam, yn bychanu ac yn distadlu y pethau nad ydynt yn eu deall; ac o wir wenwyn yn taeru mai dychymmygion diweddar ydynt. Gobeithio i cawn ni weled y trysor mawrwerthiog yma ar gyhoedd; i beri gosteg, ac i dorri rhwysg y cyfryw oganwyr ein hen hanesion. Nid bychan o les i mae _y Gwr o Gaergybi_ ynteu yn ei wneuthur, trwy gasglu _Gwaith yr hen Feirdd_ G.o.didog gynt; ac ir wyf yn cyfaddef mai o'i lyfrau ef i cefais i y rhan fwyaf o'r odlau sydd yn canlyn. Ni fedrwn lai na dywedyd hyn am eich ewyllys da i'ch gwlad a'ch iaith; cynneddfau sydd, ysywaeth, mor brin ac anaml yn yr oes hon. Ef a ddichon hyn beri i'n gwlad agor ei llygaid, a defnyddio yn well rhagllaw yr hen ysgrifenadau sydd heb fyned ar goll. Ac os na wna hi hyny, i mae yn rhaid addef i chwi eich trioedd wneuthur eich rhan yn odiaeth. Hyn a'm hannoG.o.dd i roddi blaenffrwyth fy llafur, er nad yw ond bychan, dan eich nodded; a gobeithio nad ydyw Iwyr annheilwng i'w gyhoeddi, ag i daw rhywun cywreiniach i ddiwygio yr hyn sydd ammherffaith, ac i osod allan pethau eraill G.o.didoccach. Nid oedd genyfi ond torri'r garw, gobeitho i daw eraill i lyfnhau a gwastattau y balciau.
Yn ddiau ni fuaswn i yn cymmeryd yr orchest yma arnaf, ond darfod edliw o'r _Saeson_, nad oes genym ddim mewn Prydyddiaeth a dal ei ddangos i'r byd: a bod un o drigolion yr _Uch Alban_ gwedi cyfieithu swrn o waith hen fardd; neu yn hytrach wedi addurno a thacclu rhyw waith diweddar, a'i osod allan yn ei enw ef. Chwi a wyddoch yn dda, oddiwrth waith ein hen feirdd awduraidd ni, sydd eto i'w gweled, nad ydyw ddim tebygol fod y bardd gogleddig mor henaidd: ond nid af i i ymyrryd ag ef ym mh.e.l.lach yr awron. Y mae yn ddigon genyfi roddi hyn o brawf o'n hen feirdd ein hunain i'r byd; ac os darfu i mi wneuthur cyfiawnder iddynt, dyna fi wedi cyrraedd fy amcan. Pa fodd bynnag i digwyddo, i mae'n llawen genyf gael odfa i dystiolaethu fy mod yn mawrygu yn ddirfawr eich cariad a'ch traserch chwi at eich gwlad a'ch iaith; yn yr hyn i damunwn, yn ol fy ngallu, eich canlyn; a datcan, yngwydd yr holl fyd, fy mod, frodyr haeddbarch,
Eich Gwasanaethwr rhwymedig, gostyngeiddiaf,
EVAN EVANS.
AT Y CYMRY.
Pan welais fod un o _YsG.o.dogion Ucheldir Alban_, ac hefyd _Sais_ dysgedig, wedi cyfieithu gwaith eu hen Feirdd i'r _Saesoneg_, mi a dybygais mai nid gweddus i ni, y _Cymry_, y rhai sydd genym Gerddi awduraidd, gorhenaidd, o'r einom, fod yn llwyr ddiymdro yn y cyngaws hwnnw: o herwydd, hyd i gwn i, dyna'r unig ragorgamp celfyddyd a adawodd ein hynafiaid ini, sydd heb ei cholli. I mae _gwaith y Derwyddon_, od oedd dim gwiwgof ganddynt wedi ei ysgrifennu, wedi myned ar ddifancoll; ac nid oes dim wedi dyfod i'n hoes ni oddiwrthynt, ond y Brydyddiaeth yn unig. I mae ein hen _Fusic_ wedi ei llwyr ebargofio: nid yw'r cyweiriau cwynfa.n.u.s sydd genym yr awron ond dychymmygion diweddar, pan oedd y _Cymry_ yn griddfan tan iau galed y _Saeson_. Am gelfyddydau eraill, od oedd dim mewn perffeithrwydd, i mae gwedi ei lwyr golli. Nid oes genym ddim hanes am ein hynafiaid o'n hawduron ein hunain, ond oddiwrth y Beirdd yn unig, o flaen _Gildas ap Caw_; yr hwn sydd yn ein goganu, ac yn ein llurginio, yn hytrach nag ysgrifennu cywir hanes am danom; ond fo wyr hanesyddion yr achos: heblaw hyn, i mae ei waith ef wedi myned drwy ddwylo'r _Meneich_; gwyr a fedrai yn dda ddigon dylino pob peth i'w dibenion eu hunain.-Y Beirdd, fal i tystia _Giraldus_, Arch-diacon _Brycheiniog_, oeddynt yn cadw achau y Brenhinoedd, ac yn coffau eu gweithredoedd ardderchog; ac oddiwrthynt hwy yn ddiammau i deryw i _Dysilio_ fab _Brochwel Ysgythrog_, tywysog _Powys_, ysgrifennu'r _hanes_ sydd yr awron yn myned tan enw BRUT Y BRENHINOEDD, yr hwn a ddarfu i _Galfrid ap Arthur_, o Aber Mynwy, ei gyfieithu o iaith _Llydaw_ i'r _Lladin_, ac oddiyno yn _Gymraeg_; fel i mae ef ei hunan yn cyfaddef mewn amryw hen gopiau ar femrwn, sydd etto i'w gweled yng Nghymru; ond ysywaith, e ddarfu iddo chwanegu amryw chwedlau at hanes _Tysilio_: _Flamines_ ac _Archiflamines_, a phrophwydoliaeth _Myrddin Emrys_, a phethau eraill a fuasai harddach eu gadael heibio. Ped fuasai yn dilyn y Beirdd, e fuasai genym gywirach hanes nag sydd genym yr awron: ond fel ag i mae, ni haeddai yn gwbl mo'r gogan i mae'r _Saeson_, o amser _Camden_, yn ei rhoi iddi; o herwydd i mae _Nennius_, yr hwn a ysgrifennodd drychant o flynyddoedd o'i flaen, yn rhoddi yr un hanes am ein dechreuad.
Ir wyf yn amcanu, os Duw a rydd im' hoedl ac iechyd, osod allan yr awdur hwn a nodau helaeth arno, gyd ag amddiffyniad o'r hanes; o herwydd efe yw'r hanesydd hynaf a feddwn yn _Lladin_, oddigerth y _Gildas_ uchod, yr hwn nid yw deilwng ei gyfrif yn hanesydd; o herwydd nid dyna ei gyngyd na'i fympwy, yn ei _Epistolae de excidio Britanniae_. Ir wyf yn methu a chaffael copi iawn o _Nennius_, ac ir wyf yn meddwl nad oes un yng Nghymru a dal ddim, ond yn _Hengwrt_: da iawn er lles y wlad a hanesyddion _Prydain_, i gwnai ei berchennog adael i ryw wr dysgedig ei gymharu. I mae genyfi ddau gopi, ond i maent yn dra ammherffaith; felly hefyd i mae'r rhai printiedig, o eiddo'r Dr. _Gale_ a _Bertram_. Ni wiw i _Sais_, na neb dieithr, bydded mor ddysgedig ag i mynno, oni ddeall ef Gymraeg yn iawn, ac oni chaiff hefyd weled ein hen ysgrifenadau a'n Beirdd ni, gytcam a'r fath waith. Nid yw _Camden_, er dysgedicced, diwytted, a manyled gwr ydoedd, ond ymleferydd am lawer o bethau yn ei _Britannia_; a hyny yn unig, o achos nad oedd yn medru yr iaith yn well.
A gresyn yw, nad oedd y _Saeson_, y rhai oeddynt yn ddiau (rai o naddunt) yn chwilio pethau yn deg, ac yn ddiduedd dros ben, y cyfryw ag ydoedd _Leland_, _Usher_, a _Selden_, yn deall ein iaith, a medru gwneuthur defnydd o'n hen lyfrau: o herwydd hyn, nid oeddynt, er cymaint eu dysg a'u dawn, ddim i'w cyffelybu ag _Wmffre_ _Llwyd_ o _Ddinbych_, a _Rhobert Fychan_ o'r _Hengwrt_, fel i mae eu gwaith yn eglur ddangos. Ac yn ddiau, mae yn ammhosibl i undyn, bydded mor gywreinied ag i myno, wneuthur dim a ffrwyth ynddo, heb gaffael gweled yr hen ysgrifenadau, sydd yn gadwedig yn llyfr-gelloedd y boneddigion yng _Nghymru_; yn enwedig yn _Hengwrt_, a _Llan Fordaf_. Myfi a welais, ac a gefais fenthyg amryw lyfrau o waith llaw, yn llyfrgrawn yr anrhydeddus _Robert Davies_, ysgr. o _Lannerch_ yn Swydd _Dinbych_; a Sir _Roger Mostyn_ yng _Ngloddaith_, seneddwr dros Swydd _Flint_; a chan yr anrhydeddus _William Fychan_, ysgr. o _Gors y Gedol_, seneddwr dros Swydd _Feirionydd_; yr hyn ni fedraf lai na'i fynegu yma yngwydd y byd, er coffau eu cymmwynas a'u hewyllys da i'n gwlad a'n iaith, ac i minnau hefyd; yn ol arfer canmoladwy, a haelioni yr hen _Frython_ gynt.
Ond i ddyfod weithion at y Beirdd, yr rhai a adawsom ar ol. Ef a ddarfu imi gyfieithu ychydig odlau o'u gwaith, trwy annogaeth gwyr dysgedig o _Loegr_; ac mi a ewyllysiwn wneuthur o honof hynny er clod iddynt; ond i mae yn rhaid im' adael hynny ym marn y darllenyddion: ac nid oes genyfi ddim i'w ddywedyd, os drwg yw'r cyfieithiad, nad arnaf i yn llwyr i mae'r bai yn sefyll; o herwydd i maent y Beirdd yn ddiammau yn orchestol odiaeth; ond i mae'n rhaid addef hefyd eu bod yn anhawdd afrifed eu deongli, o herwydd eu bod yn llawn o eiriau sydd yr awron wedi myned ar gyfrgoll: ac nid ydynt wedi eu heglurhau mewn un Geiriadur argraffedig nac ysgrifenedig a welais i. Ir oedd yr Athraw hynod o _Fallwyd_, yr hwn a astudiodd yr iaith er lles cyffredin y wlad, dros holl ddyddiau ei einioes, yn methu eu deongli. Ac ni wnaeth y dysgedig Mr. _Edward Llwyd_ o'r _Musaeum_, gamp yn y byd yn y perwyl yma, er ei fod yn gydnabyddus a holl geinciau prifiaith _Prydain_. Ac yn ddiau o'r achos yma, nid oedd genyfi ddim ond ymbalfalu am ystyr a synwyr y Beirdd, mewn llawer man, oddiwrth flaen ac ol. Ir wyf yn rhyfeddu'n ddirfawr am rai o'r _Cymry_ sydd yn haeru fod gwaith _Taliesin_, a'i gydoesiaid _Aneurin Gwawdrydd_, _Llywarch Hen_, a _Merddin Wyllt_, yn hawdd eu deall. Yn ddiau nid wyf i yn deall mo honynt, ac i mae'r rhai dysgediccaf yn yr iaith, y to heddyw, yn addef yr un peth. I mae'r Beirdd, hir oesoedd gwedi hyny, sef ar ol dyfodiad _Gwilym Fasdardd_, hyd farwolaeth, _Llywelyn ap Gruffydd_, yn dywyll iawn; fal i gellwch weled oddiwrth yr odlau sydd yn canlyn. Hyn a barodd i mi beidio a chyfieithu chwaneg o honynt y tro yma, rhag ofn imi, trwy fy anwybodaeth, wneuthur cam a hwynt. Ond gan i'r _Saeson_ daeru, na feddwn ddim mewn prydyddiaeth a dal ei ddangos; mi a wnaethum fy ng'orau er cyfieithu y Casgliad bychan yma, i fwrw heibio, os yw bossibl, y gogan hwnnw: ac yn ddiau, os na wyddodd genyf wneuthur hyny, i mae yn rhaid i'r Beirdd, a'm cydwladwyr, faddeu imi; a gobeithio i derbyniant fy ewyllys da, herwydd na ddichon neb wneuthur ond a allo.-Heblaw hyn oll, i mae hyn o waith yn dyfod i'r byd, mewn amser anghyfaddas i ymddangos mewn dim prydferthwch; o herwydd i mae un o drigolion yr _Uch Alban_, gwedi gosod allan ddau lyfr o waith _Ossian_; hen Fardd, meddai ef, cyn dyfod Cristianogaeth i'w plith. Ac i mae'r llyfrau hyn mewn rhagorbarch gan foneddigion dysgedig y _Saeson_. A rhaid addef eu bod wedi eu cyfieithu yn odidog: ond i mae arnafi ofn, wedi'r cwbl, fod yr _YsG.o.dog_ yn bwrw hug ar lygaid dynion, ac nad ydynt mor hen ag i mae ef yn taeru eu bod.
I mae'r _Gwyddelod_ yn arddelw _Ossian_ megis un o'u cydwladwyr hwynt; ac i mae amryw bethau yn y cerddi a gyhoeddwyd yn ei enw, yn dangos, yn fy nhyb i, oes ddiweddarach nag i mae'r cyfieithydd yn son am dani; yn enwedig dyfodiad Gwyr _Llychlyn_ i'r _Iwerddon_, yr hyn ni ddigwyddodd, meddai hanesyddion yr _Iwerddon_, cyn y flwyddyn 700. Ac ni ddaeth yr _YsG.o.dogion_ chwaith i sefydlu yn yr _Alban_, o flaen _Fergus Mac Ein_, ynghylch y flwyddyn 503; fal i mae _William Llwyd_, Esgob _Caerwrangon_, wedi ei brofi yn ddiwrthadl, yn ei lyfr ynghylch llywodraeth eglwysig.
Ond pei canniatteid eu bod hwy yno cyn hynny, ni fyddai hynny ronyn nes i brofi _Ossian_ mor hyned ag i dywedir ei fod. O herwydd ped fuasai, pa fodd i mae ei gyfieithydd yn medru ei ddeongli mor hyfedr? I mae gwaith ein Beirdd ni, sydd gant o flynyddoedd ar ol hynny, tu hwnt i ddeall y gwir cywreiniaf a medrusaf yn yr hen _Frutaniaith_. Pwy o honom ni a gymerai'r _G.o.dodin_, gwaith _Aneurin Gwawdrydd_, Fychdeyrn Beirdd, a'i gyfieithu mor llathraidd ag i gwnaeth cyfieithydd _Ffingal_ a _Themora_?
Ir wyfi yn meddwl nad oes neb a ryfygei gymmeryd y fath orchest arno.
Prin iawn i medreis i ddeongli rhai pennillion o hono yma a thraw, y rhai a ellwch eu gweled yn y traethawd _Lladin_ ynghylch y Beirdd. A gresyn yw ei fod mor dywyll, o herwydd, hyd ir wyf fi yn ei ddeall, gwaith G.o.didog ydyw. Yr un peth a ellir ei ddywedyd am _Daliesin_ Ben Beirdd, nid oes neb heddyw, hyd i gwn i, a fedr gyfieithu yn iawn un o'i Awdlau na'i Orchanau. Myfi a wn fod amryw Frudiau ar hyd y wlad, wedi eu tadogi ar _Daliesin_ a _Myrddyn_; ond nid ydynt ond dychymygion diweddar, gwedi eu ffurfeiddio ar ol marwolaeth _Llywelyn ap Gruffydd_. Yn enwedig yn amseroedd terfysglyd _Owain Glyndwr_, a'r ymdrech rhwyg pleidiau _Efrog_ a _Lancaster_. I mae hefyd eraill, gwedi eu lluniaethu gan y Meneich, i atteb eu dibenion hwythau; ond i mae'r rhain oll yn hawdd eu gwahanu oddiwrth awduraidd waith _Taliesin_, wrth yr iaith.-I mae yn ddiammau genyf, fod y bardd yma yn odidog yn ei amser. Ir oedd yn gydnabyddus ag athrawiaith y _Derwyddon_ am y ete????s??, a'r Daroganau, y rhai oeddynt yn ddiammau, weddillion o'r Credo paganaidd; canys nid yw daroganu ddim arall ond mynegi pethau i ddyfod, oddiwrth y _Ddar_, yr hon ir oeddynt y _Derwyddon_ yn ei pherchi yn fawr iawn. A chan ei fod ef yn wr llys, ac yn byw yn yr oes anwybodus honno, ir oedd yr hyn a ddywedai yn cael ei dderbyn a'i roesawu gan y gwerinos, megis ped fuasai wir broffwyd. A hynny a ellir ei ddywedyd hefyd am Ferddin Emrys, a'i broffwydoliaeth. Mor anhawdd yw tynnu ofergoelion eu hynafiaid, oddiwrth un wlad neu genedl!
E ddichon rhai o honoch ysgatfydd ofyn, Paham na buaswn yn cyfieithu rhai o'r Beirdd G.o.didog diweddar, a ysgrifenasant wedi diwygio yr hen gynghanedd? I'r rhain ir wyf yn ateb, fod y Beirdd yn amser y tywysogion yn fwy ardderchog a mawryddig yn eu gwaith; ac ir oeddynt eu hunain, rai o naddunt, yn dywysogion, ac yn wyr dyledogion; yn enwedig, _Owain Cyfeiliog_, tywysog _Powys_; a _Hywel ap Owain Gwynedd_, Bardd a rhyfelwr G.o.didog: ac felly ir oeddynt yn fwy penigamp na'r Beirdd diweddar, o ran eu testunau. Canys ir oedd y Beirdd diweddar, fel i mae _Sion Dafydd Rhys_ yn achwyn arnynt, yn gwenieithio i'r gwyr mawr, ac yn dywedyd celwydd ar eu can; ac yn haeru iddynt dorri cestyll, lladd a llosgi, pryd ir oeddynt, eb ef, yn cysgu yn eu gwelyau, heb ddim mo'r fath feddwl nac amcan ganddynt. Eithr yn amser y tywysogion, o'r gwrthwyneb, ir oedd y Beirdd yn dystion o ddewredd a mawrfrydigrwydd eu tywysogion; ac ir oeddynt eu hunain yn filwyr glewion. Ir oedd _Meilir Brydydd_ yn gennad dros _Ruffydd ap Cynan_ at frenin _Lloegr_; ac ir oedd _Gwalchmai_, ei fab, yn flaenor cad ynghyffinydd _Lloegr_ a _Chymru_; fel i maent ill dau yn tystiolaethu yn eu cerddi. Heblaw hyn, ir oedd y tywysogion yma yn fuddugawl yn eu rhyfeloedd a'r _Saeson_, ac ir oedd hynny yn peri i'r Beirdd ymorchestu, i dragywyddoli eu gweithredoedd ardderchog; ac i foli eu gwroldeb mewn achos mor glodfawr ag amddiffyn eu gwlad a'u rhyddid, yn erbyn estron genedl, a'u difuddiasei o dreftadaeth eu hynafiaid. Ir oedd y rhain yn ddiau yn destunau gwiw i Feirdd ganu arnynt, ac yn fodd cymmwys i beri i'w deiliaid eu perchi a'u hanrhydeddu; canys ir oedd y cerddi G.o.didog yma yn cael eu datgan gyda'r delyn, mewn cyweiriau cyfaddas, mewn gwleddau yn llys y tywysog, ac yn neuaddau y pendefigion a'r uchelwyr. I mae _Giraldus_ yn dywedyd, fod y _Cymry_ mor ddrud a milwraidd yn ei amser ef, ag na rusynt ymladd yn noeth ac yn ddiarfog, a'r rhai arfog, llurugog; a'r pedydd yn erbyn y marchogion. Yn ddiau nid oedd un modd a ellid ei ddychymmygu well, i gynnal yr yspryd dihafarch yma yn ein hynafiaid, na chael eu moli gan y Beirdd. Ac e wyddai'r _Saeson_ hynny yn dda ddigon; canys ar ol darostwng _Cymru_ tan eu llywodraeth, e ddarfu iddynt ddihenyddu'r Beirdd trwy'r holl wlad. I mae llyfrau ystatud Lloegr, yn llawn o gyfreithiau creulon i'w herbyn, ac yn gwarafun yn gaeth iddynt ymarfer o'u hen ddefodau, o glera a chymhortha.
Yn amser _Owain Glyndwr_, i cawsant ychydig seibiant a chynhwysiad i ganu; ond gwedi hynny, hyd ddyfodiad _Harri'r Seithfed_, ir oeddynt tan gwmmwl. Gwedi iddo ef ddyfod i lywodraethu, ac yn amser ei fab, _Harri'r Wythfed_, a'r frenhines _Elisabeth_, y rhai a hanoeddynt o waed Cymreig, i cawsant gynhwysiadau i gynnal Eisteddfodau: ond ni pharhaodd hynny ond ennyd fechan, o herwydd bonedd Cymru a ymroisant i fod yn Saeson, fel i maent yn parhau gan mwyaf hyd y dydd heddyw.
Ond i mae rhai yn yr oes yma yn chwenychu eu cadw a'u coledd, er mwyn eu hiaith ddigymmysg, ac er mwyn gwell gwybodaeth o foesau ac ansawdd ein hynafiaid; ac er mwyn eu teilyngdod eu hunain; o herwydd i mae yn rhai o'u Hawdlau a'u Cywyddau, ymadroddion mor gywraint a naturiol ag sydd ym Mhrydyddion Groeg a Rhufain; mal i gwyr y sawl a'u deallant yn dda.-Ymysg eraill i mae Cymdeithas y Cymmrodorion, yn Llundain, yn rhoddi mawrbarch iddynt; ac yn chwenychu cadw cynnifer o'n hen ysgrifenadau ag sydd heb fyned ar goll. A da i gwneynt foneddigion Cymru, ped ymoralwent am argraffu y pethau mwyaf hynod a gwiwgof mewn prydyddiaeth, hanesion, ac eraill hen goffadwriaethau; o herwydd i maent beunydd yn cael eu difrodi, gan y sawl ni wyddant ddim gwell. Hyn, er lles ein gwlad a'n iaith, yw gwir a diffuant ddamuniad
Eich gostyngedig wasanaethwr, a'ch ewyllysiwr da,
EVAN EVANS.
I. HIRLAS OWAIN.
_Owain Cyfeiliog e hun ai cant_.
Gwawr pan ddwyre gawr a ddoded, Galon yn anfon anfudd dynged, Geleurudd ein gwyr gwedi lludded trwm, Tremit gofwy mur _Maelawr Drefred_.
Deon a yrrais dygyhyssed, Diarswyd a'r frwydr arfau goched, A ryG.o.ddwy glew gogeled rhagddaw, Gnawd yw oi ddygnaw ddefnydd codded!
Dywallaw di fenestr gan foddhaed, Y corn yn llaw _Rhys_ yn llys llyw ced, Llys _Owain_ ar braidd yt ryborthed erioed, Porth mil a glywi pyrth egored.
Menestr am gorthaw, nam adawed Estyn y corn er cyd yfed, Hiraethlawn am llyw lliw ton nawfed, Hirlas i arwydd aur i dudded:
A dyddwg o fragawd wirawd orgred, Ar llaw Wgan draws dros i weithred, Canawon Goronwy, gwrdd gynnired gwyth, Canawon hydwyth, hydr eu gweithred: Gwyr a obryn tal ymhob caled, Gwyr yngawr gwerthfawr gwrdd ymwared, Bugelydd Hafren balch eu clywed, Bugunat cyrn medd mawr a wna neued.
Dywallaw di'r corn argynfelyn, Anrhydeddus, feddw, o fedd gorewyn, Ac o'r mynni hoedl hyd un blwyddyn, Na ddidawl i barch, can nid perthyn, A dyddwc i Ruffydd waewruddelyn, Gwin a gwydr goleu yn ei gylchyn, Dragon Arwystli, arwystl terfyn, Dragon Owain hael o hil Cynfyn, Dragon iw dechreu, ac niw dychryn cat, Cyflafan argrat cymwy erlyn.
Cetwyr idd aethant er clod obryn: Cyfeddon, arfawc, arfau Edwyn, Tala.s.sant i medd mal gwyr Belyn gynt, Teg i hydrefynt tra bo undyn.
Dywallaw di'r corn, canys amcan cennyf, Ydd ymgyrryw glyw gloyw ymddiddan, Ar llaw ddehau ein llyw gyflafan, Lluch y dan ysgwyd ysgawn lydan, Ar llaw Ednyfet llawr diogan lew, Ergyrwayw trylew, trei i darian.
Terfysc ddyffysc ddeu ddiofn anian, Torrynt torredwynt uch teg adfan, Teleirw yngbyngrein ynghyfran brwydr, Tal ysgwyd eurgrwydr torrynt yn fuan: Tryliw eu pelydr gwedi penwan, Trylwyn yn amwyn amwiw Garthan.
Cigleu ym Maelawr gawr fawr fuan, A garw ddisgyrr gwyr, a gwyth erwan, Ac ymgynnull am drull am dramwyan, Fal i bu ym Mangor am ongyr dan: Pan wnaeth dau deyrn uch cyrn cyfrdan.
Pan fu gyfeddach Forach Forfran.
Dywallaw di'r corn, canys myfyr gennyf, Men ydd amygant medd a'n tymmyr, _Selif_ diarswyt orsaf _Gwygyr_, Gogelet ai cawdd calon eryr!
Ac unmab _Madawc_, enwawg _Dudur_ hael, Hawl bleiddiad, lleiddiad, lluch ar ysgyr, Deu arwreidd, deu lew, yn eu cyngyr, Deu arial dywal dau fab _Ynyr_, Dau rydd yn nydd cad eu cyfergyr, Cyfargor diachor camp diachyr, Arfod llewod gwrdd, gwrddwan cadwyr, Aer gunieid, lunieid, coch eu hongyr, Treis erwyr yn ffwyr ffaw ehegyr, Trei eu dwy aesawr dan un ystyr, Gorfu gwynt gwaeddfan uch glan glasfyr, Gorddwy clau tonnau _Talgarth_ ystyr.
Dywallaw di fenestr na fyn angau, Corn can anrhydedd ynghyfeddau, Hirlas buelin, breint uchel hen ariant, Ai gortho nid gorthenau: A dyddwg i _Dudur_, eryr aerau, Gwirawd gyssefin o'r gwin gwinau, Oni ddaw i mewn o'r medd gorau oll, Gwirawd o ban, dy ben faddau, Ar llaw _Foreiddig_, llochiad cerddau, Cerddyn hyn i glod cyn oer adnau, Dieithr frodyr fryd ucheldau, Diarchar arial a dan dalau, Cedwyr am gorug gwasanaethau, Nid ym hyn dihyll nam hen deheu Cynnifieid, gyrthieid, fleinieid, fleiddiau, Cynfaran creulawn creulyd ferau, Glew glyw _Mochnannwys_ o _Bowys_ beu: O glew gwnedd arnaddunt deu, Achubieit pob rheid, rhudd eu harfeu: Echedwynt rhag terfysc eu terfynau, Moliant yw eu rhann y rhei gwynnau; Marwnad fu neud mi newid y ddau!
O chan Grist mor drist wyf o'r anaeleu!
O goll _Moreiddig_ mawr ei eissieu.
Dywallaw di'r corn can nim puchant, Hirlas yn llawen yn llaw _Forgant_, Gwr a ddyly gwawd gwahan foliant, Gwenwyn y addwyn, gwan edrywant, Areglydd defnydd dioddefiant llafn, Llyfn i deutu llym ei hamgant.
Dywallaw di fenestr o lestr ariant, Celennyg edmyg, can urdduniant, Ar llawr _Gwestun_ fawr gwelais irdant, Ardwy _Goronwy_ oedd gweith i gant, Cedwyr cyfarfaeth ydd ymwnaethant, Cad ymerbynieid, eneid dichwant, Cyfarfu ysgwn ac ysgarant aer, Llas aer, llosget maer ger mor lliant: Mwynfawr o garcharawr a gyrcha.s.sant, _Meurig fab Gruffydd_ grym ddarogant, Neud oedd gochwys pawb pan atgorsant, Neud oedd lawn o heul hirfryn a phant.
Dywallaw di'r corn ir cynnifieid, Canawon _Owain_, cyngrein, cydneid, Wynt a ddyrllyddant yn lle honneid, Glud men ydd ant gloyw heyrn ar neid: _Madawc_ a _Meilir_ gwyr gorddyfneid treis, Tros gyferwyr gyferbynieid: Tariannogion torf, terfysc ddysgeid, Trinheion faon, traws ardwyeid.
Ciglau am dal medd myned dreig _Cattraeth_, Cywir eu harfaeth, arfau lliweid, Gosgordd Fynyddawc am eu cysgeid, Cawssant y hadrawdd cas flawdd flaenieid; Ni wnaeth a wnaeth fynghedwyr ynghalet _Faelor_, Dillwng carcharor dullest foleid.
Dywallaw di fenestr fedd hidlaid, melus, Ergyrwayw gwrys gochwys yn rheid, O gyrn buelin balch oreuraid, Yr gobryn gobrwyau henaid; O'r gynnifer anhun a borth cynnieid Nis gwyr namyn Duw ac ai dywaid.
Gwr ni dal ni dwng, ni bydd wrth wir, _Daniel_ dreig cannerth, mor ferth hewir, Menestr mawr a gweith yd ioleithir Gwyr ni oleith lleith, oni llochir, Menestr medd ancwyn a'n cydroddir, Gwrdd-dan gloyw, goleu, gwrddloyw babir Menestr gwelud dy gwyth yn Llidwm dir Y gwyr a barchaf wynt a berchir.
Menestr gwelud dy galchdoed Cyngrein, Ynghylchyn _Owain_ gylchwy enwir, Pan breiddwyd Cawres, taerwres trwy dir, Preidd ostwng orflwng a orfolir, Menestr nam didawl, nim didolir, Boed ym mharadwys in cynhwysir, Can pen teyrnedd, poed hir eu trwydded, Yn i mae gweled gwaranred gwir. AMEN.
II. AWDL
_I Fyfanwy Fechan_, _o Gastell Dinas Bran_. _Howel ap Einion Lygliw ai cant_.
Neud wyf ddihunwyf, hoen Creirwy hoywdeg, Am hudodd mal Garwy, O fan or byd rwymgwyd rwy, O fynor gaer Fyfanwy.
Trymmaf yw cariad tramwy, hoen eurnef, Hyn arnaf dy faccwy, Dy far feinwar Fyfanwy, Ar ath gar ni fu far fwy.
Gofyn ni allawdd namyn gofwy cur, Dyn mewn cariad fwy fwy, Fynawg eirian Fyfanwy, Fuchudd ael fun hael fyw'n hwy.
Eurais wawd ddidlawd, ddadl rwy adneuboen, Adnabod Myfanwy, Poen ath gar afar ofwy, Poen brwyn ei ryddwyn i ddwy.
Gorwydd, cyrch ebrwydd, ceirch ebran addas, Dwg dristwas, dig Drystan, Llwrw buost, farch llary buan, Lle arlloes fre eurllys Fran.